Defnyddio cennin Pedr er mwyn trin Alzheimer's
Gall tyfu cennin Pedr ar fryniau Cymru helpu "adfywio" ein diwydiant amaeth, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.
Dywed Syr Roger Jones fod angen tyfu rhagor o'r planhigion i fodloni'r galw gan y diwydiant fferyllol.
Mae'r cwmni y mae'n ei gadeirio wedi arloesi ei ddefnydd o gennin Pedr er mwyn trin clefyd Alzheimer ac mae bellach yn ehangu i gynhyrchu ychwanegion (supplements) dros y cownter.
Mae am i glystyrau o dyfwyr gael eu sefydlu ar draws Cymru.
"Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle i ffermwyr Cymru adfywio - cyfle i dyfu cnwd a gwneud elw," meddai.
"Mae'n un ffordd o wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfoethogi ein cymunedau gwledig yn yr ucheldiroedd."