'Dwi wedi colli allan ar £20,000 dros yr haf'

Wrth i dymor y gwyliau gyrraedd mae nifer o fwytai'n cwyno am gwsmeriaid yn trefnu bwrdd ond ddim yn dod - a hynny heb ffonio i ddweud.

Mae tŷ bwyta yn Llŷn yn dweud eu bod wedi colli £20,000 dros un haf o ganlyniad.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli lletygarwch, Hospitality UK, wrth raglen Newyddion S4C mai "anghwrteisi" ydy peidio â dod, heb ddweud.

Mae Heidi Bakewell yn rheolwr ar dafarn a bwyty Y Bryncynan yn Nefyn, ac mae wedi cael ei siomi sawl gwaith.

Mae'r bwyty bellach yn cadw cofnod o gwsmeriaid sy'n eu cam-arwain.