Dysgu am fislif: 'Trist taw cyfrifoldeb ni yw e'

"Y tro cynta' weles i sut i insertio tampon oedd ar YouTube," medd Lili Mai Davies, 17.

Yn ôl Lili a'i ffrindiau, fe ddaeth eu haddysg am fislif o'r we yn hytrach na'r ysgol.

"Fi 'di addysgu'n hunan, a fi'n credu bo hwnna'n drist taw cyfrifoldeb ni yw e," dywed Efa Angharad, 18.

Wrth i astudiaeth newydd ddweud nad yw'r addysg am fislif mewn ysgolion yn ddigonol, mae'r merched yn trafod troi at TikTok, YouTube ac Instagram i gael atebion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd addysg am fislif yn orfodol o fewn fframwaith y cwricwlwm newydd.