Etholiadau lleol: Galw am fynd i'r afael â siopau gwag

Ar 5 Mai fe fydd pobl Cymru yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol.

Wrth nesáu at y diwrnod mae Newyddion S4C yn ymweld â gwahanol siroedd ar draws Cymru i glywed gan yr etholwyr ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig yn eu hardaloedd nhw.

Mae Dafydd Evans wedi bod yn clywed gan bobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am eu blaenoriaethau nhw.

Materion lleol, yn hytrach na chenedlaethol oedd y pynciau amlwg, gan gynnwys siopau gwag a thaclusrwydd y strydoedd.