Ymateb 'anhygoel' yn Abertawe i gefnogi Wcráin
Mae eglwys ger Abertawe wedi disgrifio ymateb "anhygoel" ei haelodau i ddioddefaint pobl Wcráin.
Fe wnaeth y plwyf yn Nhreforys fynd ati i godi arian i helpu'r ymdrechion i brynu ambiwlans i fynd i'r ffin ag Wcráin.
Buon nhw hefyd yn casglu arian yn ystod tymor y Grawys.
Wrth weld y sefyllfa yn dirywio, aeth yr aelodau ati i sefydlu grŵp gwau dillad babis ar gyfer mamau a phlant Wcráin.