Gwerthu ci defaid i godi arian i bobl Wcráin

Mae ci defaid bach yn cael ei werthu mewn ocsiwn ddydd Mercher, a'r elw i gyd yn mynd i deuluoedd yn Wcráin.

Bydd yr ast 11 wythnos oed yn cael ei gwerthu mewn arwerthiant ar-lein gan gwmni Marchnad Ffermwyr Dolgellau, gyda'r holl elw yn mynd i apêl DEC ar gyfer Wcráin.

Mae'r arwerthwyr yn disgwyl y bydd y ci bach yn gwerthu am bris da o ystyried bod ei mam, Kim, yn dal y record am y pris uchaf erioed a dalwyd am gi defaid mewn arwerthiant.

Cafodd Kim - ci defaid o Dal-y-bont yng Ngheredigion - ei gwerthu yn Chwefror 2021 am £27,100. Roedd wedi'i hyfforddi gan Dewi Jenkins o Dal-y-bont - a werthodd yr ast i ddyn o Sir Stafford.

Mae ci bach Kim nawr yn cael ei werthu gan Eamonn Vaughan, ffermwr o Sir Stafford, gyda'r elw i gyd yn mynd i gynorthwyo teuluoedd sy'n dioddef yn sgil y rhyfel.