'Ma' bosib dod at eich hunain - jest siaradwch'

Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod unigrwydd yn cael effaith ar iechyd meddwl chwarter oedolion Cymru.

Fe nododd bod llawer yn teimlo cywilydd ac yn amharod i gyfaddef eu bod yn unig ac yn cael trafferth ymdopi.

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae ffermwr o Sir Ddinbych wedi rhannu ei brofiadau gyda rhaglen Newyddion S4C.

Fe roddodd Osian Roberts flas o'r dirywiad yn ei iechyd meddwl ychydig flynyddoedd yn ôl - a sut y dechreuodd wella.