Ymwelwyr â Phen y Fan yn 'haeddu cyfleusterau gwell'

Bydd yn rhaid i'r rhan helaeth o ymwelwyr dalu £7.50 i barcio wrth droed mynydd uchaf de Cymru yn y dyfodol agos, wrth i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol geisio fynd i'r afael â thrafferthion parcio diweddar.

Mae poblogrwydd ardal Pen y Fan, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi arwain at achosion o barcio anghyfreithlon a pheryglus ar hyd ffordd yr A470 ym Mhont ar Daf.

Mae disgwyl i'r gwaith o greu dros 200 o safleoedd parcio ychwanegol gael ei gwblhau yn ystod y gaeaf nesaf, ond ni fydd rhaid i aelodau'r Ymddiriedolaeth dalu i'w defnyddio.

Yn ôl Rebecca Williams o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd y gwelliannau sydd ar y gweill o fudd i bawb sy'n ymweld â Phen y Fan.