All Wrecsam sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Dau?
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam un gêm i ffwrdd o gyrraedd cynghrair bêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers 2008, ond dyw'r sefyllfa ddim yn eu dwylo nhw.
Dim ond pwynt sydd angen ar Stockport ddydd Sul i ennill y gynghrair, ond maen nhw'n chwarae Halifax, sy'n bedwerydd yn y tabl.
Felly os ydy Stockport yn colli a bod Wrecsam yn trechu Dagenham & Redbridge, mi fydd y cochion yn ennill dyrchafiad awtomatig i Adran Dau.
Ond mae gan Wrecsam atgofion drwg o herio Dagenham & Redbridge ar ddiwrnod ola'r tymor, wedi iddyn nhw ddisgyn o safleoedd y gemau ail gyfle y llynedd yn dilyn colled y tymor diwethaf.
Dywedodd Dafydd Jones, cefnogwr brwd, ar raglen Dros Frecwast fore Gwener ei fod yn gobeithio am ganlyniad gwell y penwythnos yma.