Ffrae Jiwbilî Rhuthun: Beth yw'r farn yn lleol?

Mae 'na rwyg wedi datblygu o fewn Cyngor Tref Rhuthun ynglŷn â chyfrannu arian cyhoeddus tuag at ddathliadau jiwbilî'r Frenhines yn y dref.

O chwe phleidlais i bump, cytunwyd y dylid gwario arian er mwyn nodi'r Jiwbilî Blatinwm.

Y cynllun yw i blannu coed rhosod mewn cartrefi gofal ac ysgolion i ddathlu'r achlysur.

Bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnal dathliadau ddechrau Mehefin i nodi 70 mlynedd ers dechrau teyrnasiad y Frenhines Elizabeth.

Ond yn ôl rhai cynghorwyr yn Rhuthun, mae yna "ffyrdd gwell" o ddefnyddio arian y cyngor yn yr argyfwng costau byw presennol.

Cymysg yw'r farn ymysg trigolion y dref hefyd, fel y clywodd ein gohebydd Llyr Edwards.