"'Di o'm yn teimlo fatha Bangor dim mwy"
Mae ymchwiliad gan BBC Cymru i ddirywiad un o glybiau pêl-droed enwocaf Cymru - CPD Dinas Bangor - wedi clywed gan chwaraewyr gafodd eu harwyddo'n broffesiynol o Dde America ac Ewrop sy'n dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd bwydo'u hunain - er bod y clwb wedi hawlio hyd at £375,000 o arian ffyrlo.
Roedd rhaglen BBC Wales Investigates nos Fawrth, 'The Hidden World of Football', yn edrych ar stori Domenico Serafino, canwr pop wnaeth hefyd brynu dau glwb pêl-droed yng Nghymru a'r Eidal sydd wedi mynd ar chwâl ers hynny.
Mae'r rhaglen hefyd yn datgelu fod gan un o gysylltiadau busnes Mr Serafino gysylltiadau blaenorol gyda'r Mafia.
Dywedodd Mr Serafino mai'r pandemig a dyledion annisgwyl oedd yn gyfrifol am drafferthion ariannol y clwb, a'i fod wedi talu arian ffyrlo i'r chwaraewyr.
Dywedodd Gwydion Edwards, un o'r cyn-gefnogwyr, fod tranc y clwb yn "afiach".