Prosiect yng Nghaerfyrddin i gynyddu staff lletygarwch

Mae angen cynllun hirdymor i hyfforddi a denu staff i'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru, yn ôl arbenigwyr o'r sector.

Mae'r arbenigwyr, sy'n cynrychioli bwytai annibynnol Cymru, yn rhybuddio "nad ydyn ni'n gweld diwedd" ar argyfwng y diwydiant.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae cynllun peilot yn cael ei redeg gyda chogyddion lleol i hyfforddi gweithwyr o bob oed, ac mae'n cael ei ariannu trwy gynllun Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Ond mae galw nawr i ymestyn cynlluniau tebyg ar draws Cymru er mwyn llenwi bylchau yn yr hirdymor hefyd.

Bu dau sy'n rhan o'r cynllun Cook24 - Rhodri Davies ac Abigail Williams - ac un o'r hyfforddwyr, Stuart Mathias, yn rhannu eu profiadau gyda BBC Cymru Fyw.