'Mae hwn yn garreg filltir yn hanes Covid Cymru'

O ddydd Llun ymlaen ni fydd yn ofynnol yn gyfreithiol i wisgo mygydau ar safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Hon oedd y rheol olaf i Lywodraeth Cymru ei chodi - a Chymru oedd rhan olaf y Deyrnas Unedig i fod ag unrhyw gyfyngiadau Covid-19 mewn grym.

Dywed gweinidogion bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwella dros yr wythnosau diwethaf, gyda lefelau Covid a niferodd cleifion ysbyty sy'n profi'n bositif yn parhau i ostwng.

Mae meddygon teulu fel Dr Eilir Hughes yn parhau i bwysleisio bod y pandemig ddim drosodd eto, ac yn dal i annog pobl ystyried gwisgo mygydau mewn meddygfeydd, ysbytai a chartrefi gofal.