Le Pub: Gigs 'anhygoel' a theimlad 'unigryw'
Byddai cynllun i brynu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn helpu i ddiogelu'r sîn gerddoriaeth Gymreig am genedlaethau i ddod, yn ôl elusen.
Mae'r elusen The Music Venue Trust (MVT) eisiau gwario £3.5m i brynu naw eiddo ar draws Prydain.
Mae dau leoliad yng Nghymru yn eu plith: The Bunkhouse yn Abertawe, a Le Pub yng Nghasnewydd.
Prif leisydd y band Chroma, Katie Hall, sy'n esbonio pwysigrwydd Le Pub iddi hi a'r band.