Dinas diwylliant 'yn dod â chymunedau at ei gilydd'

Mae statws Dinas Diwylliant wedi galluogi Coventry i ddenu digwyddiadau mawr fel cyhoeddiad y Turner Prize a Phenwythnos Mawr y BBC.

Ond mae rhai wedi mynegi amheuon ynghylch cyrhaeddiad yr holl ddigwyddiadau a gafodd eu trefnu yn ystod y cyfnod y statws, sy'n dod i ben ddydd Mawrth.

Ar yr un diwrnod, bydd Dinas Diwylliant 2025 yn cael ei chyhoeddi, gyda Wrecsam ymhlith y pedair ardal sydd yn y ras.

Dyma farn rhai o Gymry Coventry am effaith y statws ar y ddinas.