Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Daeth ail ddiwrnod yr ŵyl ac roedd y torfeydd yn ôl yn eu miloedd. Dyma 'chydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes ddydd Mawrth.

Awen, Tegid a Cadog, o Gaerdydd, yn barod am bob tywydd

Mari Lovgreen yn siarad efo un o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Sant Baruc, yn y Bari, wedi iddyn nhw ddod yn gyntaf yn y cyflwyniad dramatig blwyddyn 6 ac iau.

Ysgol Gynradd Cwm Afan yn dathlu dod yn gyntaf yn y Parti Unsain i Ddysgwyr blwyddyn 6 ac iau

Mae pawb yn hoffi Mr Urdd... Gweinidog Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS, a Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd

Anest o Bontsenni yn cael cyfle am un ymarfer bach sydyn cyn cystadlu yn yr unawd blwyddyn 5 a 6.

Cyffro'r llwyfan canlyniadau

Pawb a'i dalent... petai 'na gystadleuaeth dringo polyn yn yr Urdd byddai Iago, o Ruthun, ar y llwyfan

Penny o Bentrefelin, ger Criccieth, yn dawnsio i Huw Cyw.

Mae mynd o gwmpas y Maes yn waith blinedig i Gwen o Grymych

Mae dipyn wedi newid o ran iechyd a lles ers i'r Urdd fod yn Llanbedr Pont Steffan yn 1959…

Triciau syrcas gan Lleucu o Ruthun yn Tipi Comisiynydd Plant Cymru

Digon o gandi fflos i bawb ar y Maes...

Y dorf yn barod i ddogfennu'r cyffro yn y Gornel Canlyniadau

Siwan, o Fethesda, a Hunter o Ddeiniolen yn yr Arddangosfa Celf

Criw Sistema Codi'r To o Ysgol Glancegin, Bangor, yn chwarae drymiau