Ymateb cymysg i'r frenhiniaeth ar drothwy'r Jiwbilî

Cymysg oedd yr ymateb wrth i BBC Cymru holi pobl am eu barn am y frenhiniaeth ar drothwy'r Jiwbilî.

Fe fydd y Frenhines yn nodi 70 mlynedd ar ei gorsedd yr wythnos hon, ac wrth i rai ei chanmol roedd eraill yn feirniadol o'r teulu brenhinol fel sefydliad.

Mae arolwg newydd gan Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 ym Mhrifysgol Cymru yn awgrymu bod 55% o bobl yn cefnogi'r frenhiniaeth.