Sioned Edwards sy'n ein cyflwyno i'r Arddorfa ar Faes yr Urdd

Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi sefydlu gardd gymunedol a chelfyddydol ar faes yr ŵyl, fydd yn cael ei throsglwyddo yn ôl i'r gymuned wedi'r Eisteddfod i sicrhau gwaddol a gweithgarwch cymunedol yn yr ardal.

Prosiect amgylcheddol, eco-gyfeillgar yw'r Arddorfa, yn egin diddordeb pobl ifanc am fyd natur a'r celfyddydau.

Yn ystod wythnos yr ŵyl mae'n lwyfan i berfformwyr cymunedol a gweithdai celfyddydol i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc sydd yn ymweld a'r Maes.

Mae'r arddwraig, Sioned Edwards, yn esbonio mwy.