Yma o Hyd ar y cae: 'Un o'r delweddau mwyaf anhygoel'

Wrth i Gymru lwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 o flynyddoedd, un o'r delweddau mwyaf cofiadwy o'r noson yn bendant oedd Dafydd Iwan yn canu ar y cae gyda'r garfan o'i amgylch.

Dywedodd pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas bêI-droed, Ian Gwyn Hughes, fod hynny'n "un o'r delweddau mwyaf anhygoel" yr ymgyrch a'r noson.

"Mi oedd o'n anhygoel - un o'r eiliadau emosiynol mawr 'na," meddai.