Pam fod Boris Johnson yn wynebu pleidlais o hyder?

Mae Boris Johnson yn wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth ar ôl i ddigon o aelodau seneddol Ceidwadol alw am bleidlais o'r fath.

Y disgwyl yw y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal am 18:00 ddydd Llun.

Roedd angen i 54 o ASau Ceidwadol anfon llythyr yn galw am y bleidlais er mwyn cyrraedd y trothwy ar gyfer pleidlais yn ei arweinyddiaeth.

Dyw hi ddim yn glir faint yn union o ASau sydd wedi gwneud hynny, ac fe allai fod yn llawer uwch na'r 54 oedd ei angen.

Gohebydd Seneddol BBC Cymru Elliw Gwawr sy'n egluro'r broses a'r camau nesaf.