Cwpan y Byd: Pryder cefnogwr am gostau uchel Qatar

Wedi'r fuddugoliaeth fawr wnaeth sicrhau lle i Gymru yng Nghwpan y Byd 2022, mae pryder am drefniadau teithio i Qatar.

Mae costau'n uchel yn y wlad, a phryder aelodau'r Wal Goch yw y bydd trefniadau'n gymhleth.

Mae Tommie Collins o Borthmadog wedi bod yn dilyn tîm pêl-droed Cymru oddi cartref ers bron i 35 mlynedd, ac wedi bod dramor i'w gwylio dros 100 o weithiau.

Dywedodd y dylai teithio i Qatar fod yn "amser gorau fy mywyd" ond bod 'na "rwystredigaeth o ran y gost a llety".