Her yn wynebu cefnogwyr Cymru i gyrraedd Qatar

Wedi i beldroedwyr Cymru lwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd, y disgwyl yw bydd miloedd o gefnogwyr yn gwneud y daith o Gymru ar gyfer y gystadleuaeth.

Gyda'r wlad yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y byd, credir y bydd y trip yn un costus iawn i'r rhai sy'n teithio i lannau'r Gwlff.

Yn ôl Ann Jones o gwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon, ni fydd trefnu tripiau yn dasg hawdd.