Brawd a chwaer ar dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Bydd teulu cyfan yn edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad wedi i frawd a chwaer gael eu dewis i fod yn rhan o dîm Cymru.

Fe fydd Joe Brier yn cystadlu yn y ras 400m a bydd Hannah Brier yn rhedeg yn y ras 200m.

"I gael Hannah gyda fi yn y gemau, mae'n deimlad hapus iawn i fi ac i'n rhieni ni - dwi'n rili hapus bod y ddau o ni'n mynd," meddai Joe.

Mae 126 o athletwyr wedi eu dewis i fod yn rhan o dîm Cymru hyd yn hyn a bydd yna ragor yn cael eu dewis yn yr wythnosau nesaf o bedwar camp arall.

Bydd Gemau'r Gymanwlad 2022 yn digwydd yn Birmingham ym mis Gorffennaf.