Sut brofiad ydy gweithio mewn syrcas?

Roedd Trystan Chambers, 24 oed o Ruthun, yn gwybod o oedran ifanc iawn ei fod eisiau bod yn rhan o syrcas, ond wedi canfod cyfleoedd i wneud hynny yn brin pan yn ifanc.

Wedi ymweliad â syrcas NoFit State ym Mangor yn ddiweddarach fe welodd gyfle i droi ei gariad tuag at y syrcas yn yrfa.

Aeth i ysgol syrcas ym Mryste cyn dechrau gweithio gyda NoFit State yng Nghaerdydd, a dyw o ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.

Bu'n siarad â BBC Cymru ym Mangor, ble mae'r syrcas yn perfformio ar hyn o bryd.