Ar ôl dyddiau du, Cwpan y Byd yw'r 'uchafbwynt' i Ramsey

Cyrraedd Cwpan y Byd yw'r "uchafbwynt mewn crys Cymru" i Aaron Ramsey, meddai'r chwaraewr canol cae.

Fe fydd Cymru'n herio'r Iseldiroedd nos Fawrth, ddyddiau ar ôl sicrhau eu lle mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ar ôl "diwrnodau isel" i'r tîm dros y blynyddoedd, dywedodd bod cyrraedd Cwpan y Byd y "tu hwnt i beth oeddwn i wedi di ddisgwyl".

Fideo: Cymdeithas Bêl-droed Cymru.