Gwallau sillafu 'difrifol' ar fap digidol newydd

Dywed hanesydd ei bod yn "lloerig" gyda nifer o wallau sillafu ar fapiau ar-lein yr Arolwg Ordnans (OS)

Mae Nia Powell, o Nantmor yng Ngwynedd, yn cyfeirio'n benodol at enwau yn ei hardal hi, sef Beddgelert - enwau sy'n ymddangos ar fersiwn gyfrifiadurol 2021.

Mae'n dweud mai Llywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y DU a ddylai fod yn gyfrifol am fapiau yng Nghymru.

Dywedodd yr Arolwg Ordnans mai nod eu data ydy adlewyrchu unrhyw newidiadau, gan gynnwys enwau adeiladau a lleoedd.