'Sbesial iawn' i efeilliaid sy'n cynrychioli Cymru

Mae Garan a Ioan Croft yn efeilliaid 20 oed o Grymych, Sir Benfro. Ond yn ogystal â bod yn efeilliaid maent yn rhannu'r un proffesiwn, bocsio.

Mae'r ddau newydd gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Gemau Gymanwlad fydd yn dechrau yn Birmingham ar 28 Gorffennaf.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd yr efeilliaid ei fod yn "sbesial iawn" gallu cynrychioli'r wlad gyda'i gilydd, a'u bod yn gobeithio cael digon o gefnogaeth yn y gemau.