Yr Urdd yn cynnal y Gemau Stryd cyntaf yng Nghymru

Dros y penwythnos fe wnaeth Urdd Gobaith Cymru gynnal Gemau Stryd cyntaf Cymru, gyda rhai o bencampwyr y byd yn cymryd rhan.

Dydd Sul roedd ardal Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd yn wledd o gystadlaethau BMX, sglefryrddio, pêl-fasged cadair olwyn, sgwtera a dawnsio 'Breakin'.

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis ei bod yn bwysig cael "gweithgareddau sy'n gyfoes i bobl ifanc", a'i bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn parhau.

Ychwanegodd dau fu'n cymryd rhan ei bod yn wych gweld digwyddiad o'r fath yng Nghymru.