Colli gwyliau wedi oedi pasport 'yn dorcalonnus'

Mae cannoedd ar filoedd o bobl wedi bachu ar y cyfle i drefnu gwyliau tramor yn ystod yr haf cyntaf heb gyfyngiadau ers cyn y pandemig.

Mae disgwyl i'r Swyddfa Basport ddelio â 9.5m o geisiadau eleni, o'i gymharu â 4m yn 2020 a 5m y llynedd.

Fel arfer mae'r awdurdodau'n awgrymu ymgeisio am basport chwe wythnos o flaen llaw i fod yn saff o'i dderbyn cyn teithio.

Wrth i'r ceisiadau bentyrru, mae Llywodraeth y DU wedi cynghori pobl i gyflwyno'u ceisiadau 10 wythnos o flaen llaw yn hytrach - ond yn achos rhai dydy hynny ddim wedi bod yn ddigon buan.

Roedd Medwen Griffiths, nyrs o Sir Ddinbych, wedi bwriadu dathlu ei hymddeoliad ddiwedd yr haf gyda gwyliau pedair noson yn Rhufain, ddechrau Mehefin, gyda chriw o ffrindiau gwaith.

Fe ymgeisiodd i adnewyddu ei phasport 11 wythnos yn ôl - mae hi'n dal yn aros amdano, a bu'n rhaid i'w chydweithwyr fynd i Rufain hebddi.