Ffoaduriaid yn 'cael normalrwydd' yng ngwersyll yr Urdd

"Rydym ni'n ddiogel fan hyn, dyna'r peth pwysicaf i ni."

"Mae fy mhlant yn hapus - maen nhw'n mynd i'r ysgol bob dydd, rydym ni'n mynd ar daith bob wythnos..."

"Wrth gwrs maen nhw'n gweld eisiau eu tad, eu mam-gu a'u tad-cu, ond dyma'r realiti gorau sydd gennym ni."

Dyna sylwadau rhai o'r ffoaduriaid o Wcráin sy'n cael blasu ychydig o normalrwydd yng Nghymru wedi iddyn nhw adael rhag y brwydro yn eu mamwlad yn yr wythnosau diwethaf.

Mae dros 200 o ffoaduriaid - tua hanner yn blant bach - yn dechrau ailgydio yn eu bywydau yn un o wersylloedd yr Urdd drwy gynllun Llywodraeth Cymru.

Mae'n fwriad i'w helpu i ail-leoli i lety mwy hir dymor dros yr wythnosau nesaf - ond am y tro mae'r gwersyll yn fan diogel sy'n rhoi cyfle iddyn nhw baratoi at y dyfodol.