Trafferthion hedfan: Cwpl yn cysgu ar lawr maes awyr

Parhau mae'r trafferthion i'r rheiny sy'n hedfan, a gyda gweithwyr EasyJet yn Sbaen yn paratoi i streicio fis nesaf - parhau maen nhw'n debygol o wneud.

Mae sawl un wedi cael amser anodd wrth deithio yn ddiweddar - gan gynnwys Dewi Owen o'r Rhyl.

Dydd Sadwrn roedd Dewi a'i wraig i fod yn hedfan adref o Palma gyda chwmni Jet2 ar ôl wythnos o wyliau yn Mallorca.

Cafon nhw wybod ar ôl cyrraedd bod yr awyren yn wynebu oedi o bron i ddiwrnod oherwydd problemau technegol.

Er eu bod wedi cael cynnig gwesty dros nos, roedd yn rhaid talu 80 ewro i deithio yno, felly fe benderfynodd criw o tua 50 o deithwyr, gan gynnwys Dewi a'i wraig, aros noson yn y maes awyr yn hytrach.

Bu'n rhannu ei stori ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau.