Gwair hir llawn blodau gwyllt - blêr ta blaengar?

Mae'r arfer o adael gwair i dyfu'n hir er mwyn hybu bywyd gwyllt ar gynnydd drwy Gymru.

Mae 17 allan o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cadarnhau eu bod wedi newid eu harferion torri gwair yn y blynyddoedd diwethaf.

Erbyn hyn mae'r gwair mewn ambell ardal ond yn cael ei dorri unwaith y flwyddyn, gyda'r borfa'n tyfu'n hir drwy'r haf.

Yn Sir Torfaen, ers dechrau'r cyfnodau clo, mae yna 150 o ddarnau o dir erbyn hyn ble mae'r gwair wedi cael ei adael i dyfu - mewn parciau, stadau tai ac ar hyd ffyrdd - ac mae'n fwriad i gynyddu'r nifer i 200 y flwyddyn nesaf.

Dywed cynghorau bod agweddau'r cyhoedd yn newid, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ynghylch camau i hybu'r amgylchedd.

Ond dydy cynlluniau o'r fath ddim yn plesio pawb ac mae rhai wedi cwyno bod safleoedd gwyllt yn edrych yn flêr.

Mae yna alw hefyd i reoli'r tyfiant ar hyd ffyrdd a llwybrau rhag creu perygl i'r cyhoedd.