Proms ysgol: Costau byw yn 'destun pryder'

Mae grŵp wedi galw ar ysgolion i sicrhau bod proms diwedd tymor i ddisgyblion mor gynhwysol â phosib, wrth i gostau byw gynyddu a rhoi straen ariannol ar deuluoedd.

Mae digwyddiadau o'r fath wedi dod yn rhan ganolog o'r haf mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad bellach, yn enwedig i ddisgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 ar ddiwedd cyfnod o astudio.

Ond mae pryder am gost cynyddol digwyddiadau o'r fath - gyda channoedd yn cael ei wario weithiau ar wisgoedd a pharatoadau - a galw felly am sicrhau bod plant difreintiedig ddim yn colli allan.

Disgyblion ysgolion Dyffryn Conwy a Chwm Rhymni, a siop yn Aberporth sy'n helpu gyda'r gost, fu'n siarad â BBC Cymru.