Canser y coluddyn: 'Hanfodol gwneud mwy o ymchwil'
Mae teyrngedau'n parhau i'r ymgyrchydd canser, y Fonesig Deborah James, yn dilyn ei marwolaeth yn 40 oed.
Fe fuodd hi'n cyd-gyflwyno podlediad y BBC am fyw gyda chanser, gan godi miliynau o bunnau ar gyfer ymchwil, ac mae elusennau yn dweud y bydd ei holl waith yn achub llawer iawn o fywydau.
Un arall fu'n codi ymwybyddiaeth am ei brwydr hithau gyda chanser y coluddyn oedd y diweddar Carys Evans o Frynbuga.
Roedd hi'n ysgrifennu blog Colon Lan, ble roedd yn siarad am ei phrofiadau a'r pwysigrwydd i eraill adnabod y symptomau. Bu farw Carys y llynedd.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd chwaer Carys, Gwenno Eyton-Hodson, o Landegfan ar Ynys Môn, mai "gorau po gyntaf" y mae pobl yn mynd at eu meddyg teulu os ydyn nhw'n amau bod ganddynt unrhyw symptomau canser.
Ychwanegodd fod codi ymwybyddiaeth ac arian yn allweddol er mwyn gwneud mwy o ymchwil a sicrhau fod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar.