Prinder gofalwyr: Teuluoedd yn 'hysbysebu ar Facebook'

Mae teuluoedd yn dweud eu bod yn cael eu gyrru i hysbysebu ar wefannau cymdeithasol oherwydd prinder gofalwyr.

Gan godi pryderon bod diffyg staff bellach yn "argyfwng," mae rhai yn dweud eu bod bellach yn gorfod recriwtio ar liwt eu hunain.

Dywedodd Enid Edwards o Ddinmael, Sir Conwy, a Iona Griffith o Lanengan, Gwynedd, bod ill dwy yn chwilio'n daer am ofalwyr ar gyfer aelodau agos o'u teulu.

Mae hyn wedi pery un o aelodau Senedd Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, i ail adrodd galwadau am wasanaeth gofal cenedlaethol sydd wedi'i integreiddio gyda'r gwasanaeth iechyd.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn buddsoddi mwy nac erioed mewn gwasanaethau iechyd a gofal, ac yn y broses o recriwtio.