Dewi Lake: 'Rhywbeth sbesial' ar y gweill i Gymru
Mae bachwr Cymru, Dewi Lake, yn hyderus fod "rhywbeth sbesial" yn bosib i dîm rygbi Cymru allan yn Ne Affrica.
Roedd Lake yn siarad ar ôl sgorio cais yn y golled funud olaf i'r Springboks ddydd Sadwrn.
Bydd Cymru yn chwarae'r ail gêm brawf yn Bloemfontein ar 9 Gorffennaf a'r drydedd yn Cape Town ar 16 Gorffennaf.