Heriau lletygarwch yn 'sioc' i fenter newydd

Wrth i nifer y tafarndai sydd ar agor i gwsmeriaid barhau i gwympo, mae un tafarn yn Sir Gâr yn cael bywyd newydd.

Yn ôl ymchwil newydd, mae nifer y tafarndai yng Nghymru a Lloegr ar ei lefel isaf ar gofnod.

Yn Felingwm ger Caerfyrddin, mae Rachael Garside yn dechrau menter newydd mewn tafarn yno.

Er yn ymwybodol o heriau'r sector, dywedodd bod maint y sialens wedi ei tharo wrth geisio cael cyflenwad trydan i'r busnes, a cheisio dod o hyd i staff.