'Anodd iawn' recriwtio staff clybiau ar ôl ysgol

Ers y pandemig mae clybiau plant ar ôl ysgol dan bwysau yn methu cael digon o staff cymwys i ateb y galw, a'r broblem yn waeth i glybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae bron i un ym mhob pump o glybiau Cymru wedi cau ers dechrau'r pandemig yn 2020, yn ôl y sefydliad sy'n cydlynu gofal plant tu allan i'r ysgol.

Rhieni'n cadw eu plant adref tra'u bod nhw'n dal i weithio yw un rheswm, yn ôl Clybiau Plant Cymru, a staff cymwys yn dod o hyd i swyddi eraill ag oriau a chyflogau gwell tra ar ffyrlo.

Maen nhw'n credu y gallai "proffesiynoli" gofal plant helpu'r sefyllfa.

Dywedodd Esyllt Lord, sy'n rhedeg dau glwb ar ôl ysgol yng Nghaerdydd, ei bod yn "anodd iawn" recriwtio staff, a bod hynny wedi gwaethygu ers y pandemig.