David TC Davies: 'Rhaid i'r Prif Weinidog fynd'

Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies wedi dweud bod "rhaid i'r Prif Weinidog fynd nawr".

Yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd Mr Davies bod Boris Johnson "wedi colli cefnogaeth aelodau uchel o'r cabinet".

"Mae'n glir bod yr amser wedi dod i gael rhywun arall," meddai.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi ymddiswyddo o'i rôl, ond dywedodd Mr Davies nad yw'n barod i lenwi ei swydd.

Ond dywedodd Aelod Seneddol Sir Fynwy nad yw am ymddiswyddo ei hun oherwydd ei rôl fel chwip y llywodraeth, sy'n gweithio "i gael sefydlogrwydd i'r sefyllfa".

Dywedodd wrth y rhaglen ei bod yn "hollol bosib" y bydd yn cael ei ddiswyddo oherwydd ei sylwadau.