'Cwestiwn a fydd Johnson yn gallu aros ymlaen' tan yr hydref

Bydd Boris Johnson yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr, ond yn aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.

Daw hyn ar ôl i ddegau o ASau adael eu swyddi yn y llywodraeth.

Mae disgwyl i Mr Johnson wneud datganiad cyhoeddus yn yr oriau nesaf.

Bydd ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn cael ei chynnal yr haf hwn a bydd prif weinidog newydd erbyn cynhadledd y blaid ym mis Hydref.

Ond dywed ein gohebydd gwleidyddol Catrin Haf Jones fod cymaint o ddrwgdeimlad rhwng Mr Johnson a'r blaid Geidwadol, mae'n ansicr a fydd yn gallu aros fel prif weinidog am y misoedd nesaf.