Gemau'r Gymanwlad: 'Anrhydedd' arwain Tîm Cymru
Mae capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad eleni wedi dweud ei bod hi'n "anrhydedd" cael arwain ei gwlad.
Gyda 20 diwrnod cyn i'r Gemau ddechrau yn Birmingham, cyhoeddwyd fore Gwener mai Anwen Butten fydd capten y tîm.
Dywedodd y bowliwr lawnt 49 oed ei bod hi'n "prowd iawn" i arwain tîm sydd â dros 200 o athletwyr.
Dyma fydd y chweched tro i Butten - sydd hefyd yn nyrs arbenigol sy'n trin cleifion â chanser - gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.