'Pwysig' mynd i'r trydydd prawf â'r gyfres yn fyw
Mae'n bwysig fod Cymru'n ennill yr ail brawf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn er mwyn mynd i'r trydedd gêm gyda'r gyfres yn y fantol, yn ôl y mewnwr Kieran Hardy.
Fe wnaeth De Affrica ennill y prawf cyntaf o 32-29, a bydd yr ail brawf yn cael ei gynnal yn Bloemfontein ddydd Sadwrn.
Mae De Affrica wedi gwneud 14 newid i'r tîm drechodd Cymru o drwch blewyn yn y prawf cyntaf - penderfyniad sy'n "dibrisio" y gyfres yn ôl arwr Cymru a'r Llewod Syr Gareth Edwards.
Ond dywed Hardy fod gan Dde Affrica garfan gref iawn, a'r unig beth y gall Cymru ei wneud ydy canolbwyntio ar eu chwarae eu hunain.