'Pwysig dangos fod y diwydiant ffermio yn agored i bawb'
Mae'r diwydiant ffermio yn wynebu costau cynyddol, ansicrwydd dros ddyfodol cymorthdaliadau ac yn wynebu pwysau ynglŷn â'i effaith amgylcheddol.
Mewn ymateb, ar faes Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, mae'r undebau amaeth yn dweud eu bod yn gwneud ymdrech bwrpasol i ddenu "gwaed newydd", a thaclo'r ddelwedd o'u haelodaeth.
Yn ôl Erin McNaught, sy'n ffermio ar y fferm deuluol yn ardal y Bala ac hefyd yn gweithio ar fferm laeth leol, mae'r diwydiant "yn ei gwaed".
Hefyd yn llysgennad i'r NFU, dywedodd: "Dwi'n meddwl fod o'n bwysig fod ni'n gallu dangos i bobl bod y diwydiant ffermio yn rhywbeth sy'n agored i bawb."