Pam fod pobl ifanc yn gadael Ceredigion?

Mae Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion - dros 20% o blith unigolion 15 i 24 oed.

Yn sgil y data, mae yna alw i weithredu mewn ymgais i droi'r llanw ar ddiboblogi gwledig.

Ond sut mae gwneud hynny, pan fo gymaint yn fwy o gyfleoedd a phosibiliadau i bobl ifanc mewn dinasoedd - yng Nghymru a thu hwnt?

Un awgrym yw cynnwys pobl ifanc eu hunain wrth drafod syniadau, cynlluniau a buddsoddiadau sydd â'r potensial i droi'r fantol, fel bod yna lai o resymau iddyn nhw deimlo bod dim dewis ond symud o bentrefi cefn gwlad er mwyn byw, gweithio a mwynhau.