Rygbi plant: 'Dim tystiolaeth eto o broblemau niwrolegol'

Mae'r meddyg plant ymgynghorol, Dr Dewi Evans, wedi dweud nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod plant yn fwy tebygol o gael problemau niwrolegol wrth chwarae rygbi.

Daw wrth i gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol ddweud ei fod yn ofni na fydd yn adnabod ei blant ymhen pum mlynedd, wedi iddo gael diagnosis o ddementia cynnar.

Mae Lenny Woodard yn un o 180 o gyn-chwaraewyr, gan gynnwys cyn-gapten Cymru Ryan Jones, sy'n bwriadu lansio achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby, Undeb Rygbi Cymru (URC) a'r Rugby Football Union (RFU).

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywed Dr Dewi Evans mai trawiadau cyson i'r pen ydy'r peth peryclaf ac mae'n credu fod angen mwy o ymchwil i mewn i'r maes a mwy o fonitro.

Ond does dim tystiolaeth ar hyn o bryd, meddai, i gefnogi'r ofnau fod plant sy'n chwarae rygbi yn fwy tebygol o gael problemau niwrolegol.