Telynores o Wcráin yng Nghymru i godi arian i'w mamwlad
Mae telynores enwog o Wcráin, a gollodd ei chartref yn y rhyfel, wedi teithio i Gymru i berfformio wrth iddi geisio codi arian i'w mamwlad.
Dyw Veronika Lemishenko ddim wedi gallu dychwelyd i gartref ei theulu yn Kharkiv yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y ddinas ar ddechrau'r brwydro.
Mae hi wedi perfformio ar draws Ewrop er mwyn codi arian ar gyfer elusen y mae hi wedi'i sefydlu yn sgil y rhyfel, ac fel rhan o'r daith honno mae hi bellach wedi cyrraedd Caerdydd ar gyfer Cyngres Delyn y Byd.
Un oedd eisoes yn ei hadnabod oedd y delynores Elinor Bennett, wedi i'r ddwy gwrdd mewn gŵyl delynau yng Nghaernarfon yn 2014 a 2018.
Bu Veronika ac Elinor yn rhannu'r hanes gyda Cymru Fyw.