Apêl ffermwr: 'Peidiwch iwsio tir da i blannu coed'

Roedd Jac Williams ymhlith sawl ffermwr a wnaeth gynnig mewn ocsiwn dan sêl y llynedd i brynu tir Tyn Mynydd ger Porthaethwy.

Gan feddwl ei bod wedi cynnig "pris go lew" roedd wedi gobeithio defnyddio'r tir i gadw mwy o anifeiliaid.

Ond fe ddaeth i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'w brynu am £14,000 yr acer - sy'n llawer uwch na phris y farchnad - gyda'r nod o blannu coed arno fel rhan o'r ymdrech i liniaru effeithiau newid hinsawdd.

Mae ffermwyr fel Jac yn teimlo bod y llywodraeth yn "gwastraffu" tir amaethyddol da ar ôl talu'n hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "crocbris" amdano, gan fynd yn groes i addewid i beidio gwneud hynny ar draul ffermwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cynnig pris marchnad teg" wrth brynu tir, ac mai ar "ganran fechan iawn" o dir Cymru yr oedd hyn yn digwydd.