Lluniau Dydd Sul: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Ar ail ddiwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr haul i ymweld â Thregaron.

Dyma ychydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes ddydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yr Oedfa yn ôl ar lwyfan y Pafiliwn fore Sul. Fe ymunodd côr yr Eisteddfod ar y llwyfan i gyd-ganu.

Disgrifiad o’r llun,

Cadi a'i brawd bach Osian yn mwynhau ym Mhentre'r Plant.

Disgrifiad o’r llun,

Rhywbeth at 'dant' pawb?

Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian a'i chwaer fawr, Manon, yn cwrdd â Twm Siôn Cati ar y Maes.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ddechrau'r prynhawn roedd awyr las i'w weld rhwng y cymylau.

Disgrifiad o’r llun,

Band Arian Tref Rhydaman yn mwynhau diod ar y maes ar ôl cystadlu yn y Pafiliwn. Daeth y band yn ail yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 2.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb eisiau memento i gofio am eu diwrnod yn Nhregaron.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pob math o ddiwylliant Cymreig i'w weld ar y maes, gan gynnwys y crefftwr yma sy'n creu llwyau caru.

Disgrifiad o’r llun,

Liliwen o Aberystwyth yn cael ei chludo o amgylch y Maes gan Dad.

Disgrifiad o’r llun,

Rhun a Gruffudd yn cael seibiant wedi oriau o grwydro'r Maes.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan fydd yn cloi llwyfan y Maes nos Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Twm ar y chwith, gyda'i gefndryd Nwla a Defi yn neidio mewn mwd wedi'r glaw dros nos.

Disgrifiad o’r llun,

Trafodaeth ar Lwyfan y Llannerch am hanes Merched y Wawr.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian, Nest a Catrin yn mwynhau diod bach yn yr haul.

Disgrifiad o’r llun,

Dewi ac Osian o Gaernarfon yn gwisgo hetiau addas ar gyfer pob tywydd.

Disgrifiad o’r llun,

Corau yn canu dros beint wrth un o fariau'r Maes.