Dysgu Yma o Hyd mewn iaith arwyddo yn yr Eisteddfod
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher roedd cyfle i eisteddfodwyr ddysgu un o ganeuon eiconig Dafydd Iwan mewn iaith arwyddo.
Nod y sesiwn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda oedd codi ymwybyddiaeth am iaith arwyddo trwy ddysgu sut i ganu Yma o Hyd.
Roedd Dafydd Iwan ei hun yno hefyd yn dysgu ychydig o iaith arwyddo.
"S'dim un diwrnod yn mynd heibio heb fod rhywun yn dweud 'yma o hyd' wrtha'i, felly dwi'n diolch yn fawr i'r bwrdd iechyd am ddysgu sut i ddweud hynny trwy arwyddo," meddai.