'Cymru i barhau'n bloryn bach ar ochr Lloegr?'

Os cynhelir refferendwm annibyniaeth arall yn Yr Alban, beth allai ei olygu i Gymru?

Dyna un o'r materion a gododd yn ystod cyfweliad swmpus gyda chyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley ar gyfer rhaglen BBC Walescast.

Does dim sicrwydd eto y bydd yna ail refferendwm, gan fod llywodraeth y DU yn gwrthwynebu'r posibilrwydd serch y pwysau cynyddol am bleidlais annibyniaeth dan arweinyddiaeth prif weinidog SNP Yr Alban, Nicola Sturgeon.

Petai yna refferendwm arall, fe fyddai 'na oblygiadau mawr i Gymru beth bynnag y canlyniad, medd y cyn AS ac AC sy'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011.

Roedd yn siarad gyda gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, James Williams.